Thursday, 22 February 2018

Digwyddiad Rhwydweithio Mawrth 7fed 2018 yng Ngwesty'r Celtic, Caernarfon i rai sydd yn gweithio gyda pobl ifanc


Prynhawn da,

  • Ydych chi’n cefnogi Pobl Ifanc 16-24 oed sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant neu waith ar hyn o bryd?
  • Hoffwch chi gyfle i ddysgu mwy am y ddarpariaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i Bobl Ifanc yng Ngwynedd?
  • Ydych chi ar gael bore’r 7fed o Fawrth?


Galwch heibio Gwesty’r Celtic yng Nghaernarfon unrhyw bryd rhwng 9:30yb – 12yp ar y 7fed o Fawrth i gyfarfod a rhwydweithio gyda dros 20 o asiantaethau o fewn y maes cyflogaeth, sgiliau, addysg, hyfforddiant a gwirfoddoli. Os oes gennych chi ddiddordeb, cofrestrwch drwy:

Dilyn y linc: Cliciwch yma i gofrestru / Click Here to register
neu
Ffonio / ebostio: bethanelunedjones@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio Bethan ar (01286) 679296.

Diolch yn fawr / Thank you.


Bethan Eluned Jones
Rheolydd Ymgysylltu Pobl Ifanc / Youth Engagement Manager
Cyngor Gwynedd Council