Monday, 5 November 2012


 
bwletin  Gyda’n Gilydd


 


  

(Tîm O Amgylch  Y  Teulu,  Gwynedd)
                                                                        Rif 6, Hydref 2012
Croeso i rifyn mis Hydref o’r bwletin

Hyfforddiant Gyda’n Gilydd - rydym yn trefnu rhaglen hyfforddiant yn nhair ardal y Sir. Bydd y rhain yn weithdai hanner diwrnod ar gyfer amrywiaeth o weithwyr rheng flaen o asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a rhieni (yn cynnwys gwasanaethau oedolion sy’n gweithio gydag oedolion ble mae plant yn y teulu). Mae 15 lle ym mhob un ac mae mwy o fanylion a ffurflen cofrestru ynghlwm a’r  e-bost “Bwletin”.



Datblygiadau:

Ym mis Hydref:

·                    Derbyniwyd 20 o gyfeiriadau hyd yma ar draws y tair ardal.

·                    Cynhaliwyd nifer o gyflwyniadau ar waith y Tîm ar gyfer Penaethiaid  ysgolion cynradd ac arbennig y Sir.

·                    Mynychwyd 3 cyfarfod ardal Ymwelwyr Iechyd.

·                    Gwnaeth aelodau’r Tîm gyfarfod ag amrediad eang o asiantaethau sydd yn gweithio gyda theuluoedd.

·                    Rydym bellach wedi derbyn 70 o enwau sydd am fynychu cynhadledd Wythnos Ni, Cefnogi Teuluoedd - Lawnsiad Gyda’n Gilydd ar Hydref 24. Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y dydd!


Yn y mis sydd i ddod byddwn yn:

·                    Cwblhau dogfen ganllaw ar drothwyon rhwng Tîm Gyda’n Gilydd a Gwasanaethau Cymdeithasol (dan law Bwrdd Diogelu Plant Gwynedd a Môn).

·  Cwblhau 11 asesiad teulu sydd ar y gweill

·                    Hyrwyddo'r gwasanaeth gydag asiantaethau a thimau eraill. Cysylltwch â ni os ydych eisiau cyfarfod a’r Tîm gydangilydd@gwynedd.gov.uk


Mae gwybodaeth am ein gwasanaeth bellach ar y we  www.gwynedd-ni.org.uk/gydangilydd


Dyddiadau Hyfforddiant Gyda’n Gilydd
Gyda’n Gilydd Training Dates




Mis
Dyddiad
Lleoliad
Ystafell
Ionawr/January
08/01/2013
Penrhyndeudraeth
Dwyryd, Penrhyndeudraeth

15/01/2013
Arfon
Glyder Fach, Penrallt
Chwefror / February
05/02/2013
Dolgellau
Ystafell 2, Penarlâg

19/02/2013
Arfon
Glyder Fach, Penrallt
Mawrth / March
05/03/2013
Pwllheli
Ystafell Bwyllgor, Dwyfor

20/03/2013
Arfon
Glyder Fawr, Penrallt
Ebrill / April
02/04/2013
Penrhyndeudraeth
Dwyryd, Penrhyndeudraeth

17/04/2013
Arfon
Glyder Fawr, Penrallt
Mai / May
02/05/2013
Dolgellau
Ystafell 2, Penarlâg

21/05/2013
Arfon
Glyder Fach, Penrallt
Mehefin / June
04/06/2013
Pwllheli
Ystafell Bwyllgor, Dwyfor

18/06/2013
Arfon
Glyder Fach, Penrallt


















___________________________________________________

Hyfforddiant Gyda’n Gilydd  / Gyda’n Gilydd Training

Nodwch isod y diwrnod a lleoliad yr hoffech fynychu ynghyd a’ch manylion
Note below the date and location of the course you would like to attend together with your details

Dyddiad Cwrs / Date of Course:__________ Lleoliad / Location:__________________

Enw / Name: _____________________ ______Swydd / Post:  _______________________

Tîm / Team:___________________

Eich Rhif / Your ( No. ______________________  e-bost/e-mail ______________________________________

 Rhif eich Ffon Symudol / Your Mobile phone No: ___________________________________

Unrhyw anghenion arbennig (access/anabledd) / Any special requirements (access/disability): 

_____________________________________________________________________________

                                  
Dychweler at / Return to:
Eleri Stonehewer

Cyfeiriad / Address: Tîm Gyda’n Gilydd, Canolfan Noddfa, Cil Pebilg, Caernarfon, Gwynedd LL55 2RS
Bydd cadarnhad yn cael ei ddanfon allan pythefnos cyn yr hyfforddiant  /  Confirmation will be sent 2 weeks prior to the training